FFWRN INTEGREDIG HOTPOINT - CLASS 7- HAEARN GWRTHSTAEN
FFWRN INTEGREDIG HOTPOINT CLASS 7912 C IX - HAEARN GWRTHSTAEN
GWYBODAETH
Gan ddod â sawl swyddogaeth goginio i'ch cegin, mae Ffwrn Drydan Ddwbl Hotpoint yn cyfuno gwres eithriadol â 70L o ofod ffwrn yn un man a 39L arall yn y ffwrn uchaf. O fewn prif ofod y ffwrn, mae chwe swyddogaeth goginio ar gael gan roi dewis i chi rhwng: rhostio cylchol ar gyfer gwres wedi'i gylchredeg yn gyfartal rhwng silffoedd, gril, ffan yn unig, dadrewi, coginio'n araf a thraddodiadol. Yn y ffwrn uchaf, dewiswch rhwng gwres traddodiadol, gril sengl neu ddwbl. Mae'r model hwn hefyd yn cynnwys y Gril Solarplus. Gan gyrraedd y tymheredd llawn ar ôl 15 eiliad yn unig, mae'r Gril Solarplus 20% yn gyflymach o ran gwresogi na gril confensiynol, gyda gorchudd rhwyll sy'n llosgi unrhyw fwyd neu fraster sydd wedi sarnu. Dyma'r gril delfrydol ar gyfer brownio pastai pasta neu wneud caws blasus ar dost. Gan ymgorffori Silffoedd Telesgopig i gymryd baich seigiau trwm, mae eich dwy law yn rhydd i'w codi i mewn ac allan o'r popty gyda llai o berygl o ddamweiniau Er mwyn glanhau yn hawdd, mae Ffwrn Drydan Ddwbl Hotpoint yn cynnwys Leinwyr Catalytig - system hunan-lanhau nad oes angen unrhyw gemegau arni gan fod paneli arbennig yn erbyn wal y popty yn dal bwyd a braster sarn, gan eu hanweddu yn ystod y broses goginio. Dyma ffwrn ddwbl a all ddarparu ar gyfer pob rysáit rydych chi'n ei thaflu ati.